: Catrin Beard, Esyllt Angharad Lewis
: Hi-Hon Casgliad o straeon ac ysgrifau gan fenywod am eu profiadau o fywyd yn y Gymru gyfoes
: Honno Press
: 9781912905959
: 1
: CHF 4.30
:
: Erzählende Literatur
: Welsh
: 208
: Wasserzeichen
: PC/MAC/eReader/Tablet
: ePUB
'Roedd y ddwy yn rhannu iaith oedd yn unigryw iddyn nhw; y math o iaith lle doedd y brawddegau byth yn cael eu gorffen a'r distawrwydd weithiau'n uwch na'r sqwrs.' Megan Davies Casgliad yw hwn o straeon/ysgrifau gan 10 awdur sy'n uniaethu fel menywod ac sy'n byw yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn sôn am eu profiadau. Mae'r cyfraniadau yn amrywio o ran genre, arddull ysgrifennu, naws, hyd, profiad a chefndir yr awdur: yr unig gyfarwyddyd a roddwyd i'r awduron oedd iddynt ysgrifennu am y profiad o fod yn fenyw yn yr unfed ganrif ar hugain. Ceir cyflwyniad byr gan y golygyddion, Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis, ar ddechrau'r gyfrol.

BRANWEN


REBECCA THOMAS

‘Dwy ynys dda a ddifethwyd o’m hachos i’

Un o ddatganiadau mwyaf trasig a thruenus llenyddiaeth Gymraeg. A pherchennog y geiriau yw un o’i chymeriadau enwocaf. Gwelwn Branwen am y tro cyntaf yn Ail Gainc y Mabinogi – yr ail chwedl mew