1
Daw Hufen Iâ Gwyn’s Ice Creams mewn fan binc a melyn, â sticeri a phosteri yn hanner glynu wrth y ffenestri. Mae’r fan yn pydru mynd y tu ôl i lenni’r mynyddoedd a thrwy dyfiant y cymylau, a phob pnawn Sadwrn a phob pnawn Sul mae’n dringo yn ôl ac ymlaen ar hyd y llechwedd. Pob penwythnos, gaeaf a haf, mae’n stryffaglu i fyny, yn pesychu, yn poeri mwg, ond yn dal ati’n styfnig er gwaethaf llwydni’r allt a llwydni’r dref. Daw caneuon cwynfanllyd o fan Gwyn wrth iddi sgrytian i fyny’r allt, a’r rheini wedi’u gosod ar sŵn a grŵn yr injan anfodlon.
Mae alawon y fan yn felus ar fy nhafod. Cerddoriaeth 200 o flynyddoedd i gyd yn nhrydar y clychau sy’n deud hufen iâ, ac sy’n cosi’r plant o’u tai fel y pibydd brith. Mae ’na rhyw gyswllt rhwng y sain a sbardun y fan, fel bod yr alaw yn dyfnhau ac yn arafu gyda’r ffordd, ac yna mae’r tâp yn cyflymu ac yn tuthian yn ei flaen, ac yn carlamu wrth i’r fan fynd yn gynt i gael gwib i fyny’r allt serth.
“IIII shhhhhhooooouuuuuuuullllllldddddddd beeeeee sooo luuckky lucky lcky lki I shd be so lcki in luv,” meddai’r tâp.
Nefoedd.
Daw dŵr i ’nannedd. Wrth i Pijin a finna redag, mae ’nghareiau i dal yn agorad, ac mae trowsus ysgol Pijin, sy’n rhy fach iddo fo, a fynta’n ei wisgo er mai dydd Sul ydi hi, yn gneud ei gamau’n fyr fel petai mewn ras deircoes. ’Da ni’n rhedeg beth bynnag, dros y ffens, rhwng y blerwch o dai sy’n glwstwr ar yr allt. Rydan ni’n cyrraedd ffenest y fan gyda’n trwynau’n llifo a’n cegau’n agored fel pysgod allan o ddŵr. Mae wyneb crwn brown a choch Gwyn yn edrych allan ac yn gwenu. A ninna’n plygu drosodd i gael ein gwynt atom, ein hanadl yn stemio o’n cwmpas, yn wyn yn yr awyr oer. ’Da ni’n plygu er mwyn anadlu, ein dwylo ar ein pengliniau, ein cefnau’n grwm tuag at y cymylau, fel y boi ’na yn yr Olympics, y rhedwr cyflyma’n y byd.
Mae Gwyn yn edrych i lawr arnon ni trwy’r ffenast. Mae ganddo aeliau trwchus, du, gwyllt a llygaid bach glas tywyll. Mae ganddo fol fel powlan. Mae croen Gwyn yn wahanol i ’nghroen i a chroen Pijin. Mae ganddo liw haul ac mae ei groen fel lledr, lledr sydd ag olew arno. Ar ei ben mae ’na wallt du sy’n cael ei gribo dros y darn moel. Mae’r gwallt yma wastad yn sticio fyny, fel mohican damweiniol. Mae ganddo hefyd flew duon ar hyd ei freichiau ac mae gan Gwyn wyneb blewog. Nid blew hir, dim ond blew garw fel oedd gan fy nhad. Mae ei lais yn arw hefyd. Ac mae ganddo be mae Efa’n ei alw’n “atal deud”, lle mae ’na le gwag lle dylai dy air fod, ac mae dy holl gorff yn stopio.
“Iawn, B-b-bois?”
Dwi a Pijin yn anadlu “Iawn” yn ôl, er fod pawb yn gwybod nad boi ydw i, ddim mwy na mae Pijin yn hogan – ond dwi’n ddigon hapus bod Gwyn yn fy ngalw’n boi.
“B-b-be ’da chi isio heddiw ’ta?” Mae llais Gwyn yn codi ar ddiwedd y frawddeg, yn uchel iawn, mor uchel â fama, ond ’da ni dal heb benderfynu. Achos wythnos ddiwetha mi ges i un o’r rhai siocled ’na sy’n feddal ar y tu allan ac fe gafodd Pijin un o’r petha tenau oren ’na ac mi neuthon ni ddeud y bysa ni’n ffeirio wythnos yma ond dwi ddim isio go iawn achos yr un siocled ydi fy ffefryn, a dwi’n gobeithio y gwneith Pijin gyd-weld ond tydi o heb ddeud eto felly dwi ar fin mynd yn fy mlaen a chael rhywbeth hollol